Dyn wedi marw ar ôl disgyn yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddau wedi bod yn cerdded ar Glyder Fach ger Dyffryn Ogwen
Mae dyn 23 oed o Dorset wedi marw wedi iddo ddisgyn 300 troedfedd ar fynydd Glyder Fach yn Eryri.
Roedd wedi bod yn cerdded gyda dyn arall mewn niwl isel pan ddigwyddodd y ddamwain ddydd Mawrth.
Dywedodd aelodau Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen ei bod hi'n ymddangos bod y ddau wedi dilyn llwybr anghywir ar hyd ochr ddwyreiniol y mynydd wrth geisio dod i lawr ond bod un wedi disgyn o ymyl clogwyn.
Ffoniodd dau ddringwr arall y gwasanaethau brys tua 5pm ddydd Mawrth.
Llwyddodd 28 aelod o'r tîm achub mynydd gyda chefnogaeth tîm achub a hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali i gyrraedd y dringwyr a'r cerddwyr erbyn 6pm.
Aed â'r tri oedd yn holliach i ganolfan achub mynydd Dyffryn Ogwen ac fe gludwyd y dyn a ddisgynnodd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle oedd cadarnhad ei fod wedi marw.
'Llithrig'
Dywedodd Chris Lloyd o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen: "Roedd y ddau wedi bod yn cerdded ac yn chwilio am lwybr i lawr o gopa Glyder Fach.
Mi ddaethon nhw o hyd i un llwybr - yr un dwyreiniol ar y prif glogwyn - ond nid yw hwnnw'n llwybr da i ddod i lawr.
"Disgynnodd un ryw 300 o droedfeddi ac, yn anffodus, roedd yn gwymp angheuol.
"Roedd gan y ddau gyfarpar rhesymol ond roedd y niwl yn isel ac roedd yn llithrig dan draed.
"Yn anffodus, mae hwn yn un o'r digwyddiadau hynny sy'n gallu digwydd weithiau yn y mynyddoedd."