Dicter am farciau melyn ar balmentydd Rhuthun
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud bod y marciau'n cydymffurfio â rheolau
Mae deiseb ar-lein wedi cael ei lansio er mwyn protestio yn erbyn marciau melyn ar balmentydd Rhuthun.
Mae trigolion yn honni eu bod wedi "difetha" golwg y dref hanesyddol.
Cafodd llinellau dwbl melyn eu paentio ar rai ffyrdd yng nghanol y dref ddydd Sul, yn ogystal â marciau melyn ar y palmentydd.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych bod y marciau ar y palmentydd i ddangos bod llwytho a dadlwytho'n cael eu gwahardd.
'Maint ac amlder'
Mewn datganiad, ychwanegodd yr awdurdod lleol: "Yn anffodus mae maint ac amlder y marciau yn cael ei reoli gan reoliadau cenedlaethol ac nid yw'n rhywbeth gallwn ei amrywio.
"Mae'r cyfyngiadau llwytho/dadlwytho wedi cael eu cyflwyno ar nifer o strydoedd ond mae'r adrannau hiraf ar Stryd y Ffynnon, Stryd y Prior, Stryd y Castell a Ffordd Wynnstay."
Ond mae'r marciau wedi ysgogi ymateb blin gan rai o drigolion y dref ac mae deiseb ar-lein wedi cael ei lansio.
Mae rhai hefyd wedi ysgrifennu eu sylwadau ar y safle rhwydweithio cymdeithasol Facebook, gydag un yn dweud eu bod wedi "difetha" golwg y dref.