Peithon yn cuddio mewn drôr
- Cyhoeddwyd

Nid yw'r peithon brenhinol yn wenwynig
Cafodd perchennog newydd fflat sioc wrth agor drôr yn y gegin a chanfod neidr Affricanaidd ynddo.
Roedd y peithon brenhinol mewn fflat yn ardal forwrol Abertawe.
Y gred yw mai dyn aeth yn ôl i Saudi Arabia oedd yn berchen ar y neidr sy' bellach dan ofal yr RSPCA.
Dywedodd un o arolygwyr y mudiad, Neill Manley: "Mae'r neidr mewn cyflwr da ond mae'n siŵr bod perchennog newydd y fflat wedi cael sioc aruthrol.
"Mae'r peithon brenhinol hefyd yn cael ei adnabod fel y peithon pêl gan ei fod yn cyrlio pan mae rhywbeth yn codi ofn arno.
"Nid yw'n ymosod er mwyn amddiffyn ei hunan."