Enwi beiciwr fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi enwi beiciwr 40 oed fu farw ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â char yng Nghasnewydd fore Mercher.
Roedd Andrew Leonard Chick yn dod o Gasnewydd.
Digwyddodd y ddamwain tua 7:50am ar Heol Ddosbarthu Ddeheuol y ddinas ger y gyffordd â Heol Brynbuga.
Roedd y beic mewn gwrthdrawiad â char Volkwagen, ac roedd Mr Chick wedi marw erbyn iddo gyrraedd Ysbyty Brenhinol Gwent.
Fe gafodd gyrrwr 61 oed y car fân anafiadau a phan gafodd ei ryddhau o'r ysbyty fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion.
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau'r heddlu ar 01633 642404.