Pryder am doriadau yn yr heddlu
- Cyhoeddwyd

Dywedodd yr Arolygydd Brian Robinson bod Heddlu'r Gogledd wedi colli 39 swyddog ers terfysgoedd haf 2011
Mae awgrym y bydd heddluoedd yn cael trafferth delio gydag achosion o ddiffyg tref gyhoeddus oherwydd toriadau ariannol.
Dywedodd cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru bod y toriadau'n golygu nad oes arian ar ôl i ddelio gyda fawr ddim heblaw plismona o ddydd i ddydd.
Dywedodd yr Arolygydd Brian Robinson bod Heddlu'r Gogledd wedi colli tua 40 o blismyn, sy'n cyfateb i'r ddwy uned aeth i Lundain yn ystod yr anhrefn yno yn haf 2011.
Yn ôl y Swyddfa Gartref mae unrhyw honiad nad oes gan heddluoedd adnoddau digonol yn "gyfan gwbl ddi-sail".
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod, rhwng Gorffennaf 2011 a Gorffennaf 2012 wedi cwtogi nifer y plismyn o 39 i 1,488.
'Llai o staff'
Dangosodd adroddiad y mis diwethaf bod heddluoedd Cymru yn cynllunio i gael gwared â 600 o swyddi erbyn Mawrth 2015, gyda 162 o'r rheini yn dod o Heddlu'r Gogledd sy'n ceisio gwneud arbedion o £16 miliwn.
Dywedodd yr Arolygydd Robinson, a arweiniodd un uned i Lundain yn Awst 2011: "Mae'r heddlu yn wasanaeth brys, ac er y byddwn yn medru delio gyda phlismona o ddydd i ddydd, mae'r gallu i ddelio gyda digwyddiadau mawr yn diodde' oherwydd y toriadau sydd eisoes wedi cael eu gweithredu.
"Fe ddaw amser pan fydd rhaid i ni gyfadde' na fedrwn wneud y cyfan.
"Fedrwn ni ddim darparu'r un gwasanaeth gyda llai o swyddogion a llai o staff cefnogol."
Ym mis Gorffennaf, dywedodd gweinidogion yn San Steffan bod mwyafrif llethol heddluoedd yn "ateb yr her o gwtogi eu cyllidebau tra'n gwarchod gwasanaethau" wedi i adroddiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (ACEM) godi pryderon am y toriadau.
'Di-sail'
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod ACEM wedi pwysleisio bod heddluoedd yn gwneud arbedion ond yn gwarchod plismona rheng flaen.
"Y broblem yn ystod terfysgoedd yr haf diwethaf oedd gyrru plismyn yn gyflym i ardaloedd penodol o drafferth, nid cyfanswm niferoedd yr heddlu oedd ar gael.
"Mae unrhyw honiad nad oes gan heddluoedd ddigon o adnoddau i ddelio gyda therfysgoedd yn gyfan gwbl ddi-sail."
Ychwanegodd yr Arolygydd Robinson bod Heddlu'r Gogledd "wedi gwneud popeth i leihau effaith y toriadau ar blismona rheng flaen, ond y byddai hynny yn amhosib pe bai toriadau pellach i gyllideb yr heddlu".
"Fel rheolwr profiadol o'r drefn gyhoeddus, rwy'n gwybod bod terfysg yn risg sydd gyda ni bob amser," meddai.
"Pan mae bygythiad o'r fath, dyna pryd y mae angen niferoedd, adnoddau a phobl.
"Rydym am i'r llywodraeth bwyllo, a chymryd golwg o'r newydd ar blismona ac ail-ystyried cyllidebau heddluoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd20 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012