Rhybudd i deithwyr trenau Caerdydd a'r Cymoedd
- Cyhoeddwyd

Mae pum tunnell o bridd wedi cwympo
Mae tirlithriad wedi amharu ar wasanaethau trenau rhwng y cymoedd a Chaerdydd.
Dywed Network Rail y bydd y gwaith o geisio atgyweirio wal yn parhau hyd yr wythnos nesa.
Roedd y tirlithriad rhwng Gorsaf Heol y Frenhines a Gorsaf Caerdydd Canolog.
Mae o'n effeithio ar wasanaethau i Dreherbert, Merthyr Tudful, Aberdâr a Rhymni.
Fe gwympodd pum tunnell o bridd ar y rheilffordd ar ôl i'r wal gwympo.
Dywed Network Rail:
y bydd gwasanaethau o orsaf Caerdydd Canolog i Ferthyr Tudful yn cael eu dargyfeirio ar hyd Lein y Ddinas.
y bydd gwasanaethau o orsaf Caerdydd Canolog i Aberdâr yn mynd drwy Radur ar Lein y Ddinas, ac yna yn galw yn ôl gorsafoedd yn ôl yr arfer.
Bydd gwasanaethau Treherbert yn mynd drwy Gorsaf y Frenhines ac yna i Fae Caerdydd.
Bydd gwasanaethau o Rymni, Caerffili yn mynd drwy Gorsaf y Frenhines ac yna i Fae Caerdydd.
Gwasanaethau o Coryton yn gorffen yn yr Heath Low Level.
Bydd gwasanaethau rhwng Penarth a Caerdydd Ganolog pob 30 munud.
Bydd gwasanaethau wennol yn cludo teithwyr rhwng Caerdydd Canolog, Ynys y Bari a Phen-y-bont ar Ogwr.
Bydd gwasanaeth wennol yn cludo pobl rhwng gorsaf y Frenhines a gorsaf Caerdydd Canolog.
Mae'n bosib y gallai'r gwaith hefyd effeithio ar wasanaethau eraill.
Dywed Trenau Arriva Cymru y dylai teithwyr gadw llygaid ar wybodaeth teithio a chaniatáu mwy o amser ar gyfer siwrneiau.