Holi dyn wedi marwolaeth dyn ar ôl gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn y ddalfa ar ôl gwrthdrawiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr arweiniodd at farwolaeth dyn arall.
Dywedodd yr heddlu fod Renault Clio arian wedi gadael ffordd yr A4064 ar y sgwâr yn Llangeinor gan daro postyn tua 11.55am ddydd Llun.
Credir bod y car wedi teithio o gyfeiriad Blaengarw.
Mae swyddog cyswllt teuluol yr heddlu yn cynnig cymorth i deulu dyn 41 oed a fu farw yn y fan a'r lle.
Mae dyn 40 oed yn y ddalfa ac yn cynorthwyo'r heddlu efo'i ymholiadau.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i gysylltu gyda nhw neu unrhyw un welodd gar plât cofrestru 55 yn teithio cyn y ddamwain i gysylltu gyda nhw ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.