Buddugoliaeth i Gasnewydd yn eu cartref newydd
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 4-0 Nuneaton
Ar ôl ennill oddi cartref yn eu gêm gyntaf y tymor yma o 4-3 fe wnaeth Casnewydd sicrhau eu bod yn parhau â'r rhediad a hynny yn eu cartref newydd.
Fe sicrhaodd Yr Alltudion fuddugoliaeth nos Fawrth yn Rodney Parade yn erbyn Nuneaton.
Rhwydodd y tîm cartref bedair gwaith.
Roedd hi'n 2-0 ar yr hanner wedi i Aaron O'Connor a Jefferson Louis ganfod cefn y rhwyd.
Cafodd O'Connor gôl arall yn yr ail hanner cyn i Lee Evans sgorio hefyd i selio'r fuddugoliaeth bedwar munud cyn y diwedd.
Wedi'r gêm dywedodd rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh, iddyn nhw gael "noson bleserus".
"Fe fyddai'n cofio'r noson yma am beth amser, ein gêm gystadleuol cyntaf yn ein cartref newydd a hynny o flaen cefnogwyr gwych," meddai.
"Roedd 'na bêl-droed gwych ar gae arbennig.
"Dwi'n meddwl bod pawb yn gwybod pam ein bod wedi dod i'n cartref newydd.
"Dwi'n credu bod pawb wedi gadael y stadiwm yn hapus iawn.
"Fe fyddwn ni'n mwynhau heno ac yna yn dod nôl at ein gilydd....y gêm nesa' yw ein hanoddaf eto."
Mae eu buddugoliaeth yn eu codi i frig tabl Uwchgynghrair Blue Square.
Fe fydd Casnewydd yn croesawu Lincoln City i Rodney Parade ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2012

- Cyhoeddwyd11 Awst 2012
