Heddlu yn arestio tri yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i'r cyffur mewn ty.
Mae'r heddlu yn Abertawe wedi arestio dyn 19 oed a dwy fenyw, 58 oed a 30 oed, ar amheuaeth o fod â'r cyffur Mephedrôn yn eu meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi eraill.
Yn ôl yr heddlu cafwyd hyd i Mephedrôn - sydd hefyd yn cael ei alw'n miaw miaw - gyda gwerth stryd o tua £4,000.
Cafwyd hyd i'r cyffur mewn tŷ yn ardal Waun Wen ac mae'r tri gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2011
