Gwasanaeth trên wedi ei adfer i deithwyr Caerdydd a'r cymoedd
- Cyhoeddwyd

Roedd pum tunnell o bridd wedi cwympo
Mae gwasanaethau trên yn ôl i'r arfer yng Nghaerdydd ar ôl tirlithriad yr wythnos diwethaf.
Cafodd hyn effaith ar wasanaethau trenau rhwng y cymoedd a Chaerdydd.
Roedd y tirlithriad rhwng Gorsaf Heol y Frenhines a Gorsaf Caerdydd Canolog.
Cafodd effaith ar wasanaethau i Dreherbert, Merthyr Tudful, Aberdâr a Rhymni.
Roedd pum tunnell o bridd wedi syrthio ar y rheilffordd ar ôl i'r wal gwympo.
Mae Network Rail wedi ymddiheuro i gwsmeriaid ac wedi diolch am eu hamynedd.