Pwyllgor seneddol yn galw am adolygu trefn o roi anrhydeddau
- Cyhoeddwyd

Mae galw am gomisiwn annibynnol i ystyried enwebiadau
Mae anrhydeddau yn cael eu rhoi yn flynyddol i'r un math o bobl o dan drefn sy'n annheg ac yn rhy niwlog.
Dyna gasgliad adroddiad un o bwyllgorau dethol San Steffan.
Mae'r pwyllgor yn galw am gynyddu nifer y rhai sy'n cael eu hanrhydeddu am y gwaith maen nhw'n ei wneud yn eu cymunedau.
Dydy neges y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus ddim yn un syfrdanol.
Mae'r union bwyllgor wedi dod i gasgliadau tebyg iawn yn y gorffennol.
Garry Owen yn holi Paul Flynn AS ar y Post Cyntaf ddydd Mercher.
Ond mae'r ffaith eu bod nhw'n galw, unwaith eto, am gomisiwn annibynnol i ystyried enwebiadau yn arwydd nad oes digon, medden nhw, wedi newid.
Mae'r aelodau'n argymell edrych o'r newydd ar y cydbwysedd rhwng nifer y bobl gyffredin, weithgar yn eu cymunedau sy'n cael eu hanrhydeddu ac enwogion, a gweision sifil sy'n ymddeol ar ôl gyrfa lewyrchus.
Dyw'r dafol ddim, medden nhw, yn adlewyrchu trefn sy'n gweithio'n dda.
Mae un o aelodau mwyaf llafar y pwyllgor, Aelod Llafur Gorllewin Casnewydd Paul Flynn, yn mynd ymhellach.
Mae Mr Flynn yn dadlau bod anrhydeddau'n cael eu rhoi, nid ar sail gwasanaeth, na haeddiant ond ar sail snobyddiaeth, a phwy sy'n nabod pwy.