Cwmni cydrannau ceir yn diswyddo 18
- Cyhoeddwyd

Roedd Cobra UK hefyd yn cyflenwi cydrannau i Bentley, Audi a Volvo
Mae 18 o weithwyr wedi colli eu gwaith wedi i ffatri gydrannau ceir fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Dim ond wyth mis yn ôl y symudodd cwmni Cobra UK eu ffatri o'r Trallwng i Wrecsam.
Dywedodd y gweinyddwyr fod 120 o weithwyr yn parhau i weithio i'r cwmni a'u bod yn gobeithio gwerthu'r cwmni fel busnes hyfyw.
Mae gan Cobra ffatri o hyd yn y Trallwng ond fe symudon nhw'r gwaith i ffatri newydd yn Wrecsam oherwydd archeb £12 miliwn i gyflenwi cydrannau ar gyfer y Vauxhall Astra newydd.
Dywedodd y gweinyddwyr, Kim Rayment a Tracey Pye: "Yn anffodus, roedd rhaid diswyddo 18 o weithwyr ar Awst 28 wedi i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
"Mae'r hinsawdd economaidd ac amgylchiadau masnachu anodd wedi effeithio ar y busnes yn sylweddol.
"Fodd bynnag rydym yn gobeithio gwerthu'r cwmni ac fe fydd yn dal i fasnachu wrth i ni ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud hyn."
Fe ddaeth peth o'r arian ar gyfer ehangu'r busnes o Gynllun Cyllido Busnes Ad-daladwy Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae swyddogion yn cadw cysylltiad agos gyda Cobra, ac wedi cynnig cefnogaeth i'r cwmni er mwyn gweld a oes modd cadw swyddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011