Hyd at 90 o swyddi yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Gallai hyd at 90 o swyddi ddiflannu mewn yng nglofa Aberpergwm yng Nghwm Nedd, medd perchnogion o'r Unol Daleithiau.
Dywedodd Walter Energy eu bod yn poeni am brisiau rhad glo'n fydeang a chais am fferm wynt yn y cyffiniau.
Mae staff y pwll ger Glyn Nedd wedi derbyn llythyron yn cyfeirio at "fygythiad diswyddiadau".
Yn y pwll mae 350 yn gweithio a bydd ymgynghoriad ffurfiol yn dechrau'n fuan.