Gwasg Gomer ac undeb Unite yn dod i gyfaddawd
- Cyhoeddwyd

Honnodd yr undeb fod yna "ddiwylliant o fwlio" yn y gwaith
Dywed Gwasg Gomer eu bod wedi datrys yr anghydfod diwydiannol gydag aelodau o undeb Unite.
Roedd y gweithwyr wedi cynnal tair streic mewn anghydfod oedd yn ymwneud â chyflogau a honiadau o "ddiwylliant o fwlio" yn y gwaith.
Cafodd hynny ei wadu gan y cwmni.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasg Gomer fod y ddwy ochr wedi dod i gytundeb ddydd Gwener.
Yn ôl y llefarydd mae'r cwmni wedi cytuno "i hwyluso'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Dyfarnu (ACAS) i gynnal ymchwiliad cyn gynted ag y bo modd i'r cyhuddiadau, sydd heb eu profi eto, o fwlio a harasio yng ngwasg Gomer."
Mae'r cwmni hefyd wedi cytuno i dalu'r oriau a gollwyd yn sgil y gweithredu "pan fydd yr oriau hynny wedi'u gweithio nôl dros y 12 mis nesaf."
Deellir bod bron chwarter staff Gwasg Gomer yn aelodau o Unite.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2012

- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012