Cannoedd am fod yn rhan o ffilm am Leonardo da Vinci
- Cyhoeddwyd

Bydd y gyfres yn olrhain hanes bywyd Leonardo da Vinci
Mae cwmni castio sy'n chwilio am 'extras' i ymddangos mewn drama deledu newydd fydd yn cael ei lleoli yng Nghymru wedi datgan bod mwy na 500 o bobl wedi cysylltu â nhw ar gyfer rhannau yn y gyfres.
Y gred yw bod cwmni Mad Dog Casting yn chwilio am actorion cynorthwyol i gymryd rhan yn y ddrama Da Vinci's Demons fydd yn cael ei ffilmio ym Mharc Busnes Porth Abertawe ar Ffordd Fabian yn ogystal â lleoliadau eraill yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.
Dywed y cwmni eu bod yn ceisio denu mil o bobl i ateb y gofynion cynyddol wrth i fwy o ffilmiau a rhaglenni teledu gael eu lleoli yng Nghymru, gan gynnwys Dr Who, Casualty a Being Human.
£95
Gallai ymgeiswyr llwyddiannus sydd yn gorfod bod o leiaf 16 oed ennill hyd at £95 am ddiwrnod o waith ar y gyfres sy'n cael ei chynhyrchu gan y BBC ar y cyd â chwmni Startz Entertainment.
Mae'r gyfres am fywyd yr arlunydd Leonardo Da Vinci wedi cael ei hysgrifennu gan David S Goyer oedd yn gyfrifol am y ffilmiau Batman Begins, The Flash, a Blade.
Dywedodd rheolwr cyfarwyddwr cwmni Mad Dog Casting, Rosena Robson, fod y cwmni wedi cael ymateb "anhygoel" i'w hymgyrch i ddenu actorion cynorthwyol.
Ychwanegodd fod y cwmni am recriwtio mil o bobl yn ardal Abertawe a'r cyffiniau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
