Crystal Palace 3-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd Aaron Gunarsson wedi rhoi Caerdydd ar y blaen
Fe ddylai hon fod wedi bod yn fuddugoliaeth i Gaerdydd yn dilyn hanner cyntaf disglair.
Er mai Crystal Palace ddechreuodd orau, fe sgoriodd Aaron Gunarsson yn erbyn rhediad y chwarae wedi 14 munud i dawelu'r dorf ym Mharc Selhurst.
O fewn dau funud, roedd yr un yn ddwy. Don Cowie oedd yn y lle iawn i rwydo'r ail i Gaerdydd.
Dyna oedd y sgôr ar yr egwyl gyda thîm Malky Mackay yn edrych yn gyffyrddus.
Ond aeth Palace allan ar gyfer yr ail hanner yn benderynol o frwydr.
Pan gafodd y tîm cartref gic rydd y tu allan i gwrt cosbi Caerdydd, doedd yr ergyd ddim yn edrych yn beryglus, ond fe darodd Aaron Gunarsson y bêl gyda'i fraich i ildio cic o'r smotyn.
Glenn Murray gamodd ymlaen i sgorio o'r smotyn ar ôl 52 munud, ac roedd hanner awr anodd iawn yn wynebu Caerdydd.
Fe fyddai'n brynhawn llewyrchus iawn i Murray ac fe sgoriodd ei ail ddeng munud yn ddiweddarach gydag ergyd isel i ganol y gôl.
Aeth hi'n anoddach fyth pan ildiodd Caerdydd ail gic o'r smotyn, ond roedd yr ail yn ddadleuol.
Does dim amheuaeth bod y dacl yn anghyfreithlon gan Helguson, ond roedd amheuaeth os oedd y drosedd yn y cwrt cosbi.
Canlyniad y cyfan oedd cyfle arall o 12 llath i Murray, ac fe gurodd Marshall am yr eildro i roi Palace ar y blaen a sicrhau ei hat-tric yn y broses.
Er i Gaerdydd frwydro tan y diwedd, doedd dim yn tycio, ac fe gollodd y dinasyddion am yr eildro'r tymor hwn gan ddisgyn i chweched yn y tabl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2012
