Casnewydd yn aros ar y brig
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 2-1 Southport
Mae Casnewydd yn dal ar frig Uwchgynghrair Blue Square Bet nos Sadwrn yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Southport, ond roedd aros tan y funud olaf i sicrhau'r triphwynt.
Roedd yr Alltudion ar ei hôl hi wedi 18 munud wrth i Chris Lever sgorio o'r smotyn i roi Southport ar y blaen.
Roedd hynny'n syndod gan i Gasnewydd reoli'r gêm yn llwyr gan sicrhau 72% o'r meddiant dros y 90 munud.
Er hynny roedd rhaid aros tan chwarter awr cyn y diwedd cyn i Aaron O'Connor sgorio gôl hyfryd i unioni'r sgôr.
Ond doedd tîm Justin Edinburgh ddim yn barod i fodloni ar bwynt, ac yn y funud olaf fe sgorio Ben Swallow gydag ergyd wych i gornel ucha'r rhwyd i sicrhau buddugoliaeth sy'n cadw Casnewydd ar y brig.

Wrecsam 2-2 Dartford
Roedd gôl yn y funud olaf ar y Cae Ras hefyd, ond dim gorfoledd i gefnogwyr Wrecsam.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi dim ond pedwar munud wrth y Danny Harris sgorio i Dartford.
Ond barodd y fantais ddim yn hir gan i Danny Wright unioni'r sgôr wedi 16 munud.
Wrecsam gafodd mwyafrif y meddiant ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu pan sgoriodd Andy Bishop dri munud cyn yr egwyl i roi'r Dreigiau ar y blaen.
Roedd cefnogwyr Wrecsam yn gandryll gyda'r dyfarnwr wrth iddo wrthod rhoi tair cic o'r smotyn i Wrecsam - un ohonyn nhw'n ymddangos yn bendant.
Ac fe dalodd Wrecsam y pris am y penderfyniadau pan gafodd Dartford gic rydd yn y funud olaf.
Lee Noble darodd y gic yn gelfydd i gornel y rhwyd i sicrhau pwynt i'r ymwelwyr, a siom i Andy Morrell a Wrecsam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2012

- Cyhoeddwyd18 Awst 2012

- Cyhoeddwyd14 Awst 2012

- Cyhoeddwyd11 Awst 2012
