Achub tri wrth i gwch suddo
- Cyhoeddwyd
Cafodd tri pherson eu hachub o'r môr wrth i'w cwch suddo ger arfordir Abersoch yng Ngwynedd.
Fe gafodd dau oedolyn a llanc yn ai arddegau eu codi o'r dŵr gan fâd achub yr RNLI ychydig wedi 5:00pm ddydd Sadwrn.
Roedden nhw wedi galw gwylwyr y glannau yng Nghaergybi ar ffôn symudol wedi i'w cwch cyflym ddechrau llenwi gyda dŵr.
Arhosodd gorsaf Gwylwyr Glannau ar y llein tan i ddau fâd achub ey cyrraedd wedi i hofrennydd ddod o hyd iddyn nhw, ac erbyn hynny roedd y tri yn y môr.
Ond wedi i'r tri gael eu hachub doedd dimangen triniaeth bellach arnyn nhw.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol