Disgwyl i 50 o swyddi ddiflannu yn Ngresffordd ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffatri'n cynhyrchu cynwysyddion plastig
Mae disgwyl y bydd bron 50 o swyddi'n diflannu mewn ffatri sy'n cynhyrchu cynwysyddion plastig yng Ngresffordd ger Wrecsam.
Eisoes mae cwmni APPE, sy'n cyflogi 264, wedi dechrau ymgynghori ag undeb Unite.
Dywedodd fod rhai cwsmeriaid wedi symud i gyfandir Ewrop oherwydd yr hinsawdd economaidd.
Ond, meddai, gallai newid y strwythur rheoli arwain at greu 16 o swyddi.
"Mae natur ein busnes yn newid oherwydd y farchnad," meddai Chris Brown, Cyfarwyddwr Busnes Prydain ac Iwerddon.
"Rydym yn ystyried newid y shifftiau mewn un adran oherwydd y newid mewn galw.
"Ond mae dyfodol y ffatri'n ddiogel ...
"Rydym yn gresynu at y diswyddiadau ond mae angen creu busnes cadarn a sefydlog ar gyfer dyfodol tymor hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2012
