'Llanast' yw mesur statws cyfartal i ieithoedd yn ôl AC
- Cyhoeddwyd

Cafodd y mesur ei basio yr wythnos diwethaf yn Y Senedd
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Alun Ffred Jones wedi cyfeirio at safbwynt Swyddfa Cymru i gwestiynu pwerau'r Cynulliad i basio deddfwriaeth sy'n rhoi statws cyfartal i'r iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yn "llanast".
Ar raglen y Post Cyntaf dywedodd nad oedd yn siŵr o beth yw cymhelliad Swyddfa Cymru.
O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, dywedodd y Swyddfa, bod y Cynulliad yn gallu deddfu ar yr iaith Gymraeg ond nid yng nghyd-destun yr iaith Saesneg.
Dyw cynghorwyr cyfreithiol y Cynulliad ddim yn cytuno ac yn dadlau fod y mesur o fewn grymoedd y Cynulliad.
Cafodd y Mesur Ieithoedd Swyddogol ei basio ddydd Mercher diwethaf.
Yn ôl y cyfreithiwr Emyr Lewis yr ateb syml i'r cyfan yw "rhoi'r un math o drefniant yng Nghymru ac sy'n bodoli yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, sef fod pob dim yn cael ei ddatganoli i Gymru ac eithrio'r hyn sy'n cael ei gadw'n ôl yn benodol yn San Steffan".
'Be ydi'r cymhellion?'
Nia Thomas yn ynoli Alun Ffred Jones
Yn ôl Comisiwn y Cynulliad, mae cyfeirio at yr iaith Saesneg yn "atodol" i'r ddarpariaeth y mae'r mesur yn ei gwneud mewn cysylltiad â'r iaith Gymraeg ac felly o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
"Mae'n llanast yn tydy?," meddai Mr Jones, cyn-weinidog diwylliant Cymru.
"Dw i ddim yn siŵr iawn beth ydi cymhellion Swyddfa Cymru yn gwneud hyn.
"Mae'n debyg oherwydd bod 'na gyfeiriad at y Saesneg mae ysgrifennydd Cymru wedi penderfynu nad oes gynnon ni ddim hawl i ddweud dim byd am y Saesneg yng Nghymru.
"Busnes San Steffan ydi hynny, dwi'n meddwl bod y peth yn warthus.
"Mae'n ymwneud yn sylfaenol â'r setliad â'r ddeddf ddaru sefydlu'r lle yma.
"Yn wahanol i'r Alban mae wedi ei nodi yn y ddeddf be da ni'n cael gwneud."
Dywedodd Mr Lewis bod pŵer deddfu'r Cynulliad yn sicr yn ymestyn i ddeddfu mewn perthynas â'r iaith Gymraeg.
'Cymhlethdod'
Garry Owen yn holi'r cyfreithiwr Emyr Lewis
"Y cyfan sydd wedi digwydd fan hyn ydy bod 'na ddatganiad ar y bil sy'n dweud mai'r iaith Gymraeg a'r Saesneg yw iaith swyddogol iaith busnes a'i bod nhw'n gyfartal.
"Fel mater technegol cyfreithiol, hyd y gwela' i mae'r Comisiwn yn gywir.
"Yr hyn sy'n deillio o hyn i gyd ydi mae'n dangos pa mor gymhleth â pha mor ansicr o hyd ydi'r ffin deddfu.
"Mae 'na ateb syml i hyn, yr ateb syml yw rhoi'r un math o drefniant yng Nghymru ag sy'n bodoli yn Yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, sef fod pob dim yn cael ei ddatganoli i Gymru ac eithrio'r hyn sy'n cael ei gadw'n ôl yn benodol yn San Steffan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd3 Hydref 2012
