Pedwar cyngor yn lansio prosiect yn ne ddwyrain Cymru
- Cyhoeddwyd

Y nod yw mwy o ddigwyddiadau celfyddydol yn ne Cymru
Mae pedwar awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru wedi lansio prosiect i hybu'r celfyddydau.
Nod ClymuCelf yw dod â mwy o raglenni celfyddydol i dde Cymru.
Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf sy'n rhan o'r prosiect.
Wrth rannu adnoddau, maen nhw'n gobeithio "cynyddu a chyfoethogi cyfleoedd" i gynulleidfaoedd a chymunedau.
Yn y pen draw, bydd y cynghorau'n gallu denu mwy o berfformwyr rhanbarth a sicrhau y bydd y perfformiadau'n fforddiadwy.
Dywedodd George Jones, Cadeirydd ClymuCelf: "Mae'r lansiad yn garreg filltir o ran darparu gwasanaethau celfyddydol yng Nghymru.
"Mae'n gyfle i ni rannu yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni wrth wella amrywiaeth ac ansawdd gweithgareddau yn ein hardaloedd."
Cafodd y prosiect ei lansio yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Muni ym Mhontypridd.
Yno roedd DVD am waith pobl ifanc yr ardaloedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
