Carchar am ddynladdiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 43 oed wedi'i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar ar ôl pledio'n euog i ddynladdiad ei ffrind gorau ym Mangor.
Cafodd corff Kelvin Jones ei ddarganfod mewn fflat ym Mangor Uchaf ym mis Chwefror.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod David Swift wedi gorymateb ar ôl i'w ffrind ymosod arno fo efo polyn.
Roedd y ddau wedi bod yn yfed yn drwm.