Dwy brifysgol arall yn uno
- Cyhoeddwyd

Dwy brifysgol yn uno
Mae dwy brifysgol arall yng Nghymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe, wedi uno.
Bydd brand 'Metropolitan Abertawe' yn parhau, wedi'i integreiddio'n rhan o Brifysgol Cymru.
Mae'r sefydliadau wedi uno o dan Siarter Brenhinol 1828 Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant, a chredir mai dyma'r siarter hynaf yng Nghymru a Lloegr heblaw prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi dweud bod angen lleihau nifer y prifysgolion yng Nghymru.
Dywed Mr Andrews ei bod hi'n angenrheidiol i brifysgolion adeiladu ar eu cryfderau drwy ymroi i fwy o gydweithio, partneriaeth ac uno.
Gwrthwynebiad
Ffurfiwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant trwy uno Prifysgol Cymru Llanbed a Phrifysgol Coleg Y Drindod Caerfyrddin yn 2010.
Mae yna brifysgolion eraill hefyd yn bwriadu uno.
Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd eu bod yn bwriadu uno.
Yn wreiddiol y cynllun oedd cynnwys prifysgol Fetropolitan Caerdydd fel rhan o'r sefydliad newydd.
Ond mae prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn gwrthwynebu'r bwriad.
Newid radical
Dywedodd Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol newydd unedig:
"Mae hon yn adeg hanesyddol i Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
"Rydym wedi cychwyn yn ffurfiol ar y broses o greu Prifysgol ar ei newydd wedd a fydd yn adeiladu ar gryfderau a gwerthoedd traddodiadol y ddau sefydliad academaidd.
"Hefyd, mae'r uno'n bodloni blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu mas critigol mwy a newid strwythur yn radical."
Dywedodd Yr Athro David Warner, sydd nawr yn Uwch Brofost ym Met Abertawe:
"Mae'r datblygiad cyffroes newydd hwn yn adeiladu ar yr hanes rhagorol oedd gan y ddwy brifysgol o weithio gyda'i gilydd. Mae e wedi'i seilio ar bartneriaeth o gydraddolion ac fe fydd yn rhyddhau adnoddau mwy ar gyfer darpariaethau rheng flaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011
