Chwarae pêl-droed yn newid bywyd unigolion digartref
Ym Mecsico mae dros 50 o wledydd wedi bod yn cystadlu am Gwpan y Byd Pêl-droed i Bobl Ddigartref.
Nos Wener fe fydd tîm Cymru yn chwarae eu gêm olaf yn y rowndiau rhagbrofol yn erbyn Yr Ariannin.
Hyd yn hyn, maen nhw wedi llwyddo i ennill pump o'i 9 gêm gydag un gêm gyfartal.
Dyden ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd a fydd y tîm yn y rowndiau terfynol dros y penwythnos.
Cyn i'r tîm adael fe aeth BBC Radio Cymru i un o'r sesiynau ymarfer.