Brwydr bachgen i gofio lle bu farw ein Llyw Olaf
- Cyhoeddwyd

Cafodd Llywelyn ein Llyw Olaf ei ladd yn 1282
Bydd yna welliannau i'r man lle cafodd Llywelyn ein Llyw Olaf ei ladd yng Nghilmeri, diolch i fachgen saith oed o sir Ddinbych.
Roedd Aron Jones, o Lasfryn ger Cerrigydrudion, wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn mynegi ei siom am gyflwr y safle lle mae cofeb i'r tywysog cynhenid olaf ger Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys.
Mae'r Prif Weinidog wedi anfon anrheg ato ac addo gwelliannau i'r safle.
Aeth Aron gyda'i deulu i weld y safle lle cafodd Llywelyn ei ladd gan filwyr Edward 1 yn 1282.
Arwyddion newydd
"Mi ges i fy siomi yng Nghilmeri wrth fynd i weld lle cafodd Llywelyn ei ladd," meddai yn ei lythyr.
"Doedd dim o'r hanes yno i'w weld ac roedd y lle yn ddiflas."
"Wrth i mi adael rhoddais fy maner draig goch ar fenthyg.
"Os gwelwch yn dda, a wnewch chi roi baner Cymru ar bolyn yng Nghilmeri a gyrru fy maner i yn ôl i mi."
Nawr mae o wedi derbyn draig tegan meddal fel anrheg oddi wrth Mr Jones ac addewid o welliannau i'r safle.
Dywedodd Aron: "Rwyf eisiau diolch i Mr Carwyn Jones. Rwy'n edrych ymlaen at fynd 'nôl i Gilmeri er mwyn gweld y safle a'r faner newydd."
Bydd yna arwyddion newydd yn cael eu codi i alluogi ymwelwyr i ddod o hyd i'r safle.
'Datganiad adeiladol'
Hefyd bydd swyddogion Cyngor Powys, perchnogion y safle, yn gwneud gwaith tacluso.
Cafodd y mater hefyd ei godi yn y Cynulliad gan Llŷr Huws Gruffydd, AC Plaid Cymru.
Mewn ateb i'w gwestiwn yno, dywedodd y Prif Weinidog fod swyddogion CADW yn rhoi blaenoriaeth i wella'r safle.
Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae hyn yn dangos beth mae bachgen saith oed yn gallu ei gyflawni.
"Mae'n glod i Aron a'i deulu eu bod yn teimlo mor gryf am hanes Cymru ac mae'n dda i weld Llywodraeth Cymru yn gwrando ac yn gweithredu."
Mae'r hanesydd Dr John Davies, o Ffrowm Hanes Cymru, wedi bod yn trefnu achlysur blynyddol i gofnodi marwolaeth Llywelyn ar Ragfyr 11, 1282.
"Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad adeiladol," meddai.
"Mae swyddogion CADW wedi gwneud sylwadau arwyddocaol a chyffrous ynglŷn â sut maen nhw'n bwriadu cofio Llywelyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012