Taclo troseddau yn erbyn anifeiliaid
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y bobl sydd wedi'u cael yn euog o gam-drin anifeiliaid wedi cynyddu meddai'r RSPCA
Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad wedi cytuno i ystyried y posibilrwydd o sefydlu cofrestr o bobl sy'n cyflawni troseddau yn erbyn anifeiliaid yng Nghymru.
Mae rhai yn awgrymu y byddai'r gofrestr yn ffordd effeithiol o sicrhau na fyddai'r bobl hynny yn cael bod yn berchen ar anifeiliaid eto, ond mae eraill yn pryderu y byddai'n amharu ar ryddid pobl.
Ddydd Mawrth bu'r pwyllgor yn trafod tystiolaeth, gan gynnwys llythyr gan Weinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths.
Cytunodd Aelodau'r Cynulliad fod angen cael cyngor cyfreithiol ar y mater, a dywedon nhw y bydden nhw'n trafod â Chymdeithas y Prif Swyddogion Heddlu cyn comisiynu eu gwaith ymchwil eu hunain yn y maes.
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, William Powell AC, mae'r mater "o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd".
Cynnydd
Cafodd y Ddeddf Lles Anifeiliaid ei chyflwyno yn 2007, sy'n rhoi'r hawl i awdurdodau roi dirwy o hyd at £20,000 i bobl sy'n cam-drin anifeiliaid.
Gall unigolion hyd yn oed dreulio hyd at 15 wythnos dan glo a chael eu gwahardd rhag mynd allan i brynu anifeiliaid byth eto.
Ond er hyn, yn ôl cymdeithas yr RSPCA, roedd 'na gynnydd o 31% yn nifer y bobl sydd wedi eu cael yn euog o gam-drin anifeiliaid.
Meddai Gethin Russell-Jones o'r gymdeithas: "Ry'n ni'n erlyn cannoedd o bobl yng Nghymru a Lloegr pob blwyddyn oherwydd troseddau yn erbyn anifeiliaid.
"Y broblem fwya', siŵr o fod, yw bod rhywun sydd wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus o'n rhan ni, eu bod nhw'n gallu mynd mas 'fory, wythnos nesa', a chael mwy o anifeiliaid, er eu bod nhw wedi cael eu gwahardd rhag cadw'r anifeiliaid yma.
"Felly, mae'r gofrestr yma'n swnio fel syniad eitha' diddorol oherwydd mae'n ffordd o fonitro'r bobl yma a'u gwahardd nhw."
'Annigonol'
Gethin Russell-Jones fu'n siarad o ganolfan yr RSPCA yng Nghasnewydd.
Mae'r cynllun aeth o flaen y Pwyllgor Deisebau ddydd Mawrth yn debyg i beth sydd eisoes wedi ei sefydlu mewn mannau yn America, ble mae manylion troseddwyr yn cael eu cadw ar fas data.
Byddai pob siop anifeiliaid anwes yn gallu edrych ar y bas data yna, a phetai troseddwyr yn parhau i geisio prynu anifeiliaid, gallai'r awdurdodau eu carcharu.
Mae ymgyrchwyr yn dadlau fod y system, ar hyn o bryd, yn annigonol a bod angen gwneud mwy i gefnogi anifeiliaid.
Ond mae eraill yn dadlau bod cynnal cofrestr fel hyn yn annhebygol o ostwng y nifer o bobl sy'n cam-drin anifeiliaid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2011