Golwg ffres ar dirlun yn Oriel y Parc
- Cyhoeddwyd

Bydd gwaith yr arlunydd Clare Woods yn rhan o'r arddangosfa
Mae gwastraff llechi wedi'i drefnu'n artistig, sbwriel wedi'i adael ym mhrydferthwch cefn gwlad, coed crin a chôr y wig mewn arddangosfa yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr y Parc yn Nhŷ Ddewi.
Yn Oriel y Parc, Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae gwaith newydd yn cynrychioli tirwedd Cymru yn arddangosfa Tir Newydd Celf Tirlun yng Nghymru er 1970.
Y nod yw cyflwyno rhai o'r ffyrdd y mae artistiaid wedi symud i ffwrdd oddi wrth ddarluniau traddodiadol o dirlun Cymru.
'Llechi dramatig'
Dywedodd Curadur Prosiectau Partneriaeth Amgueddfa Cymru Bryony Dawkes: "Rydym ni'n gobeithio y bydd ymwelwyr yn gwerthfawrogi ac yn ymgysylltu â'r ystod eang o gyfryngau, paentio, cerflunio, ffotograffau a ffilm.
"Mae'r arddangosfa'n cynnwys detholiad o artistiaid rhyngwladol, gan gynnwys Brendan Stuart Burns, y mae ei baentiadau wedi eu hysbrydoli gan Fae Caer-fai, gwaith llechi dramatig Richard Long, Cylch Blaenau Ffestiniog a Hill of Hurdles gan Clare Woods, golygfa o'r nos a grëwyd ag olew ac enamel ar alwminiwm."
Mae artistiaid eraill yn cynnwys Keith Arnatt, David Cushway, Mike Perry, Terry Setch, Anthony Shapland a David Nash, sydd, ochr yn ochr â Richard Long yn un o ymarferwyr mwyaf arwyddocaol y DU ym maes Celf Tir, ac y mae ei waith i'w weld mewn casgliadau ar draws y byd.
I helpu ymwelwyr ag Oriel y Parc werthfawrogi'r arddangosfa, bydd Bryony yn arwain dwy daith dywys un dydd Iau bob mis, gan ddechrau ar Hydref 25.
Cynhelir y teithiau tywys am 11am a 2pm yn Oriel y Parc ar Dachwedd 22, Rhagfyr 20, Ionawr 17 a Chwefror 14.