Angladd tair cenhedlaeth o'r un teulu
- Cyhoeddwyd

Bu farw tair cenhedlaeth teulu Buckley yn y tân
Bydd angladd tair cenhedlaeth o'r un teulu a fu farw mewn tân yn eu cartref fis diwethaf yn cael ei gynnal ddydd Iau.
Cafodd Kayleigh Buckley, 17 oed, ei merch chwe mis oed Kimberley, a'i mam 46 oed Kim eu lladd yn eu cartref yng Nghwmbrân ym mis Medi.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ yn Tillsland ar stad Coed Efa yn y dref yn oriau man Medi 18.
Ond roedd y tŷ eisoes yn wenfflam, a bu farw'r tair yn y tân.
Mae Carl Mills, 28 oed, wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Bydd angladdau'r tair yn cael eu cynnal yn Eglwys Sant Gabriel yng Nghwmbrân fore Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2012

- Cyhoeddwyd22 Medi 2012

- Cyhoeddwyd21 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012

Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol