Donaldson yn torri record yn China
- Cyhoeddwyd

Jamie Donaldson sydd ar y blaen yn Shanghai
Torrodd y golffiwr Jamie Donaldson record y cwrs gyda rownd o 62 yng nghystadleuaeth Meistri BMW yn Shanghai.
Mae'r Cymro ar y blaen wedi rownd gyntaf oedd 10 ergyd yn well na'r safon.
Mae prif ddetholyn y byd, Rory McIlroy, bum ergyd y tu ôl iddo ynghyd â chapten tîm Cwpan Ryder Ewrop, Jose Maria Olazabal.
Y ddau agosaf at Donaldson yw'r Eidalwr Francesco Molinari a Peter Hanson o Sweden gyda sgôr o chwe ergyd yn well na'r safon.
Mae'n dipyn o gamp i Donaldson i fod yn arwain cystadleuaeth sy'n cynnwys 11 aelod o dîm buddugol Ewrop yng Nghwpan Ryder.
Cafodd Donaldson, a enillodd ei gystadleuaeth gyntaf ar gylchdaith Ewrop ym Mhencampwriaeth Agored Iwerddon ym mis Gorffennaf, ddeg pluen ar y 16 twll cyntaf ar gwrs Lake Malaren.
"Dyma un o'r rowndiau gorau i mi gael erioed," meddai'r Cymro sy'n rhif 51 ar restr detholion y byd.
"Dyw'r cwrs yma ddim yn hawdd o bell ffordd."
CYSTADLEUAETH MEISTRI BMW - LAKE MALAREN, SHANGHAI
1. Jamie Donaldson (Cymru) = -10 (62)
=2. Francesco Molinari (Yr Eidal); Peter Hanson (Sweden) = -6 (66)
=3. Michael Hoey (Gogledd Iwerddon); Rory McIlroy (Gogledd Iwerddon); Jose Maria Olazabal (Sbaen) = -5 (67)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2012

- Cyhoeddwyd11 Awst 2012

- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2012
