Tân Prestatyn: Cyhuddo menyw o lofruddiaethau
- Cyhoeddwyd

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis Charlie Timbrell, ei nith Skye, dwy oed, a'i nai Bailey Allen, pedair oed
Mae menyw wedi'i chyhuddo o lofruddio pedwar o bobl, gan gynnwys tri o blant, ar ôl tân mewn fflat ym Mhrestatyn.
Mae Melanie Jane Smith, 42 oed, yn wynebu cyhuddiadau eraill hefyd wythnos a hanner ar ôl y tân.
Cafodd ei chyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd a bygythiadau i gyflawni difrod troseddol yn dilyn y tân ar Hydref 19.
Fe fydd hi'n ymddangos gerbron Llys Ynadon Prestatyn fore Mawrth.
'Digon o dystiolaeth'

Bydd Melanie Jane Smith yn ymddangos gerbron ynadon fore Mawrth
Meddai Karen Dixon, yr erlynydd rhanbarthol y Goron: "Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru wrth i'w hymchwiliad i'r tân trasig hwn ddatblygu.
"Ein rôl ar hyn o bryd yw adolygu'r dystiolaeth a gasgliwyd hyd yma gan Heddlu Gogledd Cymru a rhoi cyngor mewn perthynas â difrod troseddol.
"Gallaf gadarnhau, wedi i ni gynnal adolygiad manwl o'r dystiolaeth, ein bod wedi dod i'r casgliad fod digon o dystiolaeth i gyhuddo Melanie Jane Smith o bedwar cyhuddiad o lofruddiaeth, un cyhuddiad o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd ac un cyhuddiad o fygwth i achosi difrod troseddol."
Dywedodd Ms Dixon fod Ms Smith wedi cael ei chyhuddo o'r troseddau hyn er lles y cyhoedd.
Ychwanegodd: "Gyda'r broses gyfreithiol eisoes ar droed, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd cynnal cywirdeb yr ymchwiliad heddlu a hawl y diffynnydd i gael achos teg.
"Byddwn felly yn gofyn nad oes unrhyw beth yn cael ei gyhoeddi a allai danseilio'r broses gyfiawnder."