Achosion o E.coli ar ben
- Cyhoeddwyd

Roedd y pump gafodd eu heintio'n cynnwys dau blentyn
Mae swyddogion iechyd yn dweud bod yr achosion o E.coli yn gysylltiedig â fferm gyhoeddus yn Aberhonddu wedi dod i ben.
Does dim rhagor o achosion wedi dod i'r amlwg ymhlith pobl fu'n ymweld â Fferm Antur Cantref ers dechrau Medi.
Cafodd dau blentyn, un o Geredigion ac un o Swydd Caint, eu heintio gan E.coli 0157 wedi iddynt ymweld â'r fferm ym mis Medi.
Cafodd tri aelod o deuluoedd y plant hefyd eu heintio.
Crampiau difrifol
Ond yn awr, dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oes unrhyw achos newydd wedi'i gofnodi a bod yr achosion wedi dod i ben.
Cafodd y fferm ei chynghori i barhau i atal unrhyw gyswllt uniongyrchol rhwng anifeiliaid a'r cyhoedd.
Mae'r plant gafodd eu heintio yn gwella gartref.
Gall E.coli 0157 achosi salwch o ddolur rhydd ysgafn i ddolur rhydd gwaedlyd a gall crampiau difrifol yn y stumog gyd-fynd â hyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2012

- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012

- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
