Comisiynwyr Heddlu: Dinistrio papurau pleidleisio?
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosibl y bydd dros ddwy filiwn o bapurau pleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu fis nesaf yn cael eu dinistrio.
Mae Llywodraeth San Steffan yn ceisio brysio deddf drwy'r senedd i sicrhau bod papurau dwyieithog ar gael, ond mae swyddogion wedi archebu papurau uniaith Saesneg yn y cyfamser.
Yn ôl llefarydd ar ran y blaid Lafur mae'r cyfan yn "llanast" a all gostio £350,000 i'r trethdalwr.
Yr etholiadau ar Dachwedd 15 fydd y rhai cyntaf ar gyfer y swydd newydd mewn 41 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr.
Ymhlith dyletswyddau'r Comisiynwyr newydd y mae sefydlu blaenoriaethau ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi'r prif gwnstabl.
Fe fydd pedwar Comisiynydd ar gyfer heddluoedd Cymru - sef Heddlu'r De, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent a Heddlu'r Gogledd.
Fe fydd cyflog y comisiynydd yn Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru yn £70,000, a bydd yn £65,000 yn ardal Dyfed-Powys.
Bydd y cyflog ar gyfer Heddlu De Cymru yn £85,000 y flwyddyn.