Canlyniadau Trydedd Rownd Cwpan y Gynghrair
- Cyhoeddwyd
Gêm gyfartal 1-1 oedd hi wedi amser llawn rhwng Cei Connah ac Airbus nos Fawrth.
Bu'n rhaid chwarae amser ychwanegol gyda'r ymwelwyr yn llwyddo i rwydo ddwywaith.
Ian Kearney roddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 41 munud cyn i Craig Jones ddod â Chei Connah yn gyfartal 10 munud wedi'r ail hanner.
Steve Abbott a Mike Hayes gafodd y ddwy gôl i Airbus yn yr amser ychwanegol.
Roedd Y Seintiau Newydd yn drech na'r Bala gyda Phil Baker yn sgorio dwy gôl i'r ymwelwyr.
Greg Draper gafodd y llall.
Ian Sheridan a Mark Jones sgoriodd i'r Bala.
Yn y gêm rhwng Caerfyrddin a Phort Talbot cafwyd dwy gôl o fewn y saith munud cyntaf gan Bort talbot gan Dylan Blain a Jake Parry.
Ond fe wnaeth y tîm cartref daro'n ôl yn yr ail hanner gyda dwy gôl gan Liam Thomas ac un gan Liam McCreesh.
Canlyniadau Trydedd Rownd Cwpan y Gynghrair:
Cei Connah 1-3 Airbus
Bala 2-3 Seintiau Newydd
Caerfyrddin 3-2 Port Talbot
Llanelli 6-3 Lido Afan (chwaraewyd ar Hydref 9 2012)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012