Dod o hyd i weddillion dynol wrth chwilio am Catherine Gowing

  • Cyhoeddwyd
Catherine GowingFfynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ms Gowing, sy'n hanu o Iwerddon yn wreiddiol, ei gweld am y tro diwethaf mewn archfarchnad yn Sir y Fflint are nos Wener 12 Hydref.

Mae'r heddlu sy'n chwilio am y milfeddyg Catherine Gowing wedi dod o hyd i weddillion dynol yn Sir y Fflint.

Fe fydd profion post mortem yn cael eu cynnal prynhawn Iau i ddarganfod os mai gweddillion Catherine Gowing ydynt.

Diflannodd Ms Gowing ar ddydd Gwener, Hydref 12, pan y gwelwyd hi yn gadael archfarchnad yn Queensferry.

Tan ddydd Mercher, roedd y chwilio wedi canolbwyntio ar safle hen chwarel yn Alltami lle daeth yr heddlu o hyd i'w char wedi ei losgi.

Ond daethpwyd o hyd i'r gweddillion yn Manor Lane yn Sealand yn dilyn gwybodaeth gan aelodau o'r cyhoedd.

Cafwyd hyd i'r gweddillion yn ardal Sealand
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i'r gweddillion yn ardal Sealand

Mae Clive Sharp, 46 oed, o Fethesda, Gwynedd, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio Ms Gowing.

Bydd o yn ymddangos eto yn y llys ar Ionawr 7, 2013.

Dywedodd y ditectif uwch brif arolygydd Mark Pierce: "Yn dilyn gwybodaeth a ddaeth i law gan aelodau'r cyhoedd, mae ein hymdrechion diweddar wedi canolbwyntio ar ardal Manor Road yn Sealand.

"Ddoe fe wnaeth y timau chwilio ddod o hyd i weddillion mewn pwll bas."

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu 101 neu'n ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol