'Risg o lifogydd yn uwch' yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd
- Cyhoeddwyd

Y llifogydd achosodd ddifrod i Dalybont yng Ngheredigion
Mae'r risg o lifogydd yng Nghymru yn uwch dros y gaeaf sydd i ddod oherwydd yr haf anarferol o wlyb gwafwyd, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Dywydd.
Mae'r ddau gorff yn rhybuddio bod y tywydd dros fisoedd yr haf wedi arwain at amgylchiadau sy'n gwneud llifogydd yn fwy tebygol.
Roedd y misoedd rhwng Ebrill a Mehefin y gwlypaf i gael eu cofnodi erioed, ac mae tywydd gwlyb Gorffennaf, Medi a Hydref yn golygu bod afonydd yn llawn, y tir yn ddirlawn a lefelau dŵr mewn rhai ardaloedd yn eithriadol o uchel.
Daeth y rhybudd y dylai pobl baratoi ar gyfer llifogydd, ac oherwydd yr amgylchiadau a nodwyd y gallai hynny ddigwydd gydag ychydig o law.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Dywydd:
Bod tebygrwydd uwch o lifogydd o afonydd yng Nghymru wedi galw trwm yn ddiweddar;
Bod llifogydd oherwydd dŵr ar wyneb y tir a'r ffyrdd yn fwy tebygol gan fod y tir yn ddirlawn;
Bod risg uwch o lifogydd ger yr arfordir, yn enwedig yn ystod cyfnod o lanw uchel iawn rhwng Tachwedd 12 ac 18 a Rhagfyr 12 ac 18.
'Un o bob chwech'
Dywedodd Paul Mustow, pennaeth Rheoli Achosion o Lifogydd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd bod yr amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd wedi gwarchod dros 119,000 o gartrefi eleni.
"Ond ni allwn atal llifogydd yn llwyr," meddai.
"Gydag un o bob chwe eiddo yn wynebu risg o lifogydd, mae'n gam pwysig i bobl i ddarganfod os ydyn nhw'n wynebu risg ac yn cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd yn rhad ac am ddim gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
"Gyda'r gaeaf ar ein gwarthau, byddwn yn annog pawb i gymryd y cam yma er mwyn gwarchod eu hunain rhag yr hyn sy'n cael ei gydnabod fel y perygl naturiol mwyaf sy'n ein hwynebu."
Mae dros 1.1 miliwn o bobl yn y DU wedi cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, ac mae modd derbyn y rhybuddion drwy e-bost, neges destun neu neges llais i ffôn neu ffôn symudol.
Mae modd cofrestru ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012
