Marie Curie: Adnewyddiad gwerth £1.7m i'w hosbis
- Cyhoeddwyd

Mae Gofal Canser Marie Curie wedi ailagor drysau ei hosbis ym Mhenarth ddydd Lun.
Daw hyn ar ôl gwerth £1.7m o waith moderneiddio cyfleusterau i gleifion a theuluoedd.
Roedd Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths yn rhan o'r seremoni.
Mae'r gwelliannau wedi creu ystafelloedd sengl newydd yn ogystal â chyfleusterau 'en-suite' yn holl wardiau aml-wely'r hosbis.
Mae ystafelloedd i gyfeillion a theuluoedd, tebyg i ystafell ymwelwyr yr hosbis wedi cael eu hadnewyddu i ddarparu lle a phreifatrwydd hanfodol i ymwelwyr er mwyn iddyn nhw gael siarad â staff clinigol neu dreulio amser gyda'u hanwyliaid.
Yn ogystal â hyn, mae'r dderbynfa bresennol wedi ei thrawsnewid i le cynllun agored.
Mae'r hosbis hefyd yn newid ei enw o Hosbis Marie Curie, Penarth i Hosbis Marie Curie, Caerdydd a'r Fro er mwyn adlewyrchu'n well yr ardal sy'n cael ei gwasanaethu.
'Cyfleusterau newydd a gwell'
Yn cefnogi tua 1,200 o gleifion y flwyddyn, mae'r hosbis yn croesawu cleifion o Gaerdydd, y Fro, Casnewydd a Chaerffili yn ogystal â Phenarth.
Dywedodd Karen Stephens, Rheolwr Hosbis Marie Curie, Caerdydd a'r Fro: "Rydyn ni'n hynod o falch i gael croesawu'n cleifion yn ôl i'r hosbis gyda'r holl gyfleusterau newydd a gwell.
"Wedi ei hadeiladu 25 mlynedd yn ôl roedd gwir angen moderneiddio ar yr hosbis.
"Bydd y gwelliannau hyn o fudd uniongyrchol i'n cleifion ac yn darparu mwy o le i deuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd. "
Mae Michael Davies, 28, heddwas o Laneirwg, yn un o gleifion yr hosbis.
"Mae Gofal Canser Marie Curie wedi bod yn gefnogaeth ffantastig nid dim ond i mi ond hefyd i'm teulu a chyfeillion.
"Mae'r amgylchedd yma'n wahanol iawn i ysbyty."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2012

- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
