Milfeddyg: Heddlu'n chwilio mewn tŷ
- Cyhoeddwyd

Cafodd Catherine Gowing ei gweld am y tro diwethaf yn gadael archfarchnad ar Hydref 12
Mae Heddlu'r Gogledd sy'n chwilio am y milfeddyg Catherine Gowing wedi cadarnhau eu bod yn chwilio tŷ yn ardal Sealand, Sir y Fflint.
Dywed yr heddlu fod y safle yn un o nifer sy'n cael eu harchwilio fel rhan o'r ymchwiliad.
Mae'r heddlu hefyd wedi bod yn archwilio cae yn Sealand, ar ôl i weddillion dynol gael eu darganfod yno.
Does neb wedi gweld y milfeddyg, 37 oed sy'n wreiddiol o Weriniaeth Iwerddon ers Hydref 12.
Mae dyn 46 oed o Fethesda, Clive Sharp, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ddod o hyd i weddillion dynol mewn pwll mewn cae.
Er nad oes cadarnhad fod y darganfyddiad yn gysylltiedig mae teulu Ms Gowing, sy'n byw yn New Brighton ger Yr Wyddgrug, wedi eu hysbysu.
Mae crwner dros dro gogledd-ddwyrain Cymru yn dweud ei fod yn disgwyl agor cwest yn fuan i'r farwolaeth.
Dywedodd John Gittins ei fod wedi cael ei hysbysu wedi i'r heddlu ddod o hyd i weddillion dynol.
Cafodd Ms Gowing, sy'n gweithio i filfeddygfa yn Yr Wyddgrug, ei gweld ddiwethaf yn gadael archfarchnad Asda yn Queensferry tua 8:40pm.

Mae'r chwilio wedi canolbwyntio ar gaeau ger Manor Road yn Sealand
Dechreuodd ymgyrch anferth gan yr heddlu i chwilio am Ms Gowing, gan ganolbwyntio i ddechrau ar hen chwarel yn Alltami ger Yr Wyddgrug lle cafwyd hyd i'w char wedi ei losgi'n ulw.
Mae'r heddlu yn dal i ofyn i bobl gysylltu gyda nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad, a hynny drwy ffonio 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012
