Lladrad yn Llanelli: Arestio pump
- Cyhoeddwyd
Mae pump o bobl wedi'u harestio mewn cysylltiad â lladrad mewn bwyty yn ardal Cefncaeau, Llanelli, nos Sadwrn.
Cafodd dau ddyn 20 oed, dyn 21 oed, dyn 19 oed a llanc 17 oed eu harestio ar amheuaeth o ladrata o fwyty Samraat.
Maen nhw bellach wedi'u rhyddhau ar fechniaeth.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101.