Cyd-yrrwr ralïo o Gemaes yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Y disgwyl yw y caiff Andrew Edwards adael yr ysbyty ddydd Mercher
Mae cyd-yrrwr ralïo wedi cael anafiadau i'w ben a'i ysgyfaint ar ôl damwain yn ystod cystadleuaeth yn nwyrain Lloegr.
Cafodd Andrew Edwards o Gemaes ger Machynlleth ei anafu pan adawodd ei gar y ffordd yn ystod rali ddydd Sul.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty yn Newcastle cyn cael triniaeth yn yr uned gofal dwys yno.
Cafodd ei drosglwyddo i ward arall ddydd Mawrth a disgwylir iddo adael yr ysbyty ddydd Mercher.
Subaru Impreza
Roedd Edwards yn gyd-yrrwr i Elfyn Evans pan wnaethon nhw ennill cystadleuaeth ralio ifanc Prydain yn 2010.
Daeth Evans ac Edwards yn ail ym Mhencampwriaeth Ralio Prydain y llynedd.
Edwards oedd cyd-yrrwr Richard Clews yn y rali yn Otterburn, Sir Northumberland pan adawodd y Subaru Impreza y ffordd dros y penwythnos.
Dioddefodd Clews fân anafiadau yn y ddamwain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011
