Arestio llofrudd am dorri amodau ei drwydded
- Cyhoeddwyd

Cafwyd Jason Soal yn euog yn 1992 a chafodd ei ryddhau ar drwydded yn 2004
Mae Heddlu Gwent wedi arestio llofrudd, a gafodd ei garcharu 20 mlynedd yn ôl, wedi iddo dorri amodau ei drwydded.
Cafodd Jason Soal, 37 oed - oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Jay Soal a Jason Brindley Davies - ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Medi 1992 ac fe gafodd ei ryddhau ar drwydded yn 2004.
Roedd ditectifs wedi gwneud apêl i geisio dod o hyd iddo ers Tachwedd 16.
Ddydd Llun, dywedodd yr heddlu ei fod wedi cael ei arestio yn sir Caerffili ac y byddai'n cael ei drosglwyddo i ofal awdurdodau'r carchar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2012
