Abertawe 3-1 West Brom
- Cyhoeddwyd

Michu sgoriodd y gyntaf i Abertawe
Llwyddodd Abertawe i drechu West Brom yn Stadiwm Liberty gan godi i'r wythfed safle yn yr Uwchgynghrair.
Cyn y gêm roedd yr ymwelwyr yn drydydd yn y tabl, ond roedd eu gobeithion o aros yno yn deilchion wedi ychydig dros ddeng munud.
Sgoriodd Abertawe wedi 9 munud, gyda Michu yn rhwydo am yr wythfed tro y tymor hwn. Daeth y gwaith creu gan Sbaenwr arall - Pablo Hernandez.
O fewn dau funud, roedd Pablo yn creu eto, a'r tro hwn, Wayne Routledge fanteisiodd i roi Abertawe ddwy gôl ar y blaen.
Os oedd cefnogwyr yr Elyrch yn uchel eu croch, fe gododd lefel y sain yn uwch cyn yr egwyl.
Rhwydodd Routledge ei ail yn y gêm i roi mantias o dair i Abertawe. Ond yna eiliadau cyn yr egwyl fe ddistewodd y dorf rhywfaint pan gafodd Romelu Lukaku un yn ôl i West Brom.
Ond fe ddaliodd tîm Miochael Laudrup eu gafael ar y fantais yn yr ail hanner, gan sicrhau bod Abertawe wedi cyrraedd nod y rheolwr o 20 pwynt yn hanner cynta'r tymor ymhell cyn pryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd6 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd29 Medi 2012
