Dyn wedi boddi ar ôl gadael parti Nadolig
- Cyhoeddwyd

Doedd neb wedi gweld Haydn Evans er Rhagfyr 17
Clywodd cwest fod dyn 18 oed o'r Wyddgrug wedi boddi mewn llyn y tu allan i westy yng Nghaer ar ôl iddo orfod gadael parti Nadolig.
Bu Haydn Evans ar goll am bythefnos cyn i'r heddlu ddod o hyd i'w gorff yng nghyffiniau Gwesty Carden Park yn Rhagfyr 2011.
Bydd y cwest yn ailymgynnull ddydd Gwener.
Roedd yn mynychu parti Nadolig yn y gwesty ynghyd â chyd weithwyr a'i dad Graham ar Ragfyr 16.
Clywodd y cwest yn Warrington fod Mr Evans yn weithiwr poblogaidd yng nghwmni adeiladu MPH Construction.
Roedd o wedi bod yn yfed lager a fodca ac yn dawnsio, pan fu cythrwfl.
Dawnsio
Dywedodd un tyst, Dr Maeve Kenningham, dermatolegydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ei bod hi yn y parti gyda grŵp gwahanol.
"Roedd o'n dawnsio ac yn gwenu pan gerddodd tuag ataf," meddai.
"Roedd y gân yn ymwneud â chydio mewn rhywbeth neu'i gilydd. Fe geisiodd cydio ynof, ond fe wnes i wrthod. Roedd y cyfan mewn hwyliau da, doedd yna ddim byd treisgar."
Ychydig yn ddiweddarach fe welodd Mr Evans ar ei benliniau. "Roedd dyn arall yn y broses o'i gicio yn ei ben, yna fe welais Haydn yn codi ac yn cerdded o'r llawr dawnsio."
Dywedodd Adam Crutchley, gwerthwr nwyddau o Sale, ger Manceinion, fod Mr Evans wedi cydio yn ei gariad.
Ychwanegodd iddo ddefnyddio techneg jiwdo, a llorio Mr Evans.
Gwadodd iddo ddyrnu na chicio Mr Evans, gan ddweud iddo ddefnyddio ei droed a'i fraich i orfodi Mr Evans i'r llawr.
"Fe wnaeth o neidio yn syth yn ôl i'w draed, cynnig ei law ac ymddiheuro. Felly fe wnes i ysgwyd llaw a dweud 'anghofia'r peth.'
Yna yn ddiweddarach dywed Mr Crutchley iddo weld Mr Evans a'i bennaeth fel petaent yn cael ffrae.
Tacsi
"Fe wnaeth Haydn sibrwd: 'Ty'd allan ac mi wnâi dorri dy wyneb.' Felly fe wnes i ei roi ar y llawr a mynd i edrych am staff diogelwch y gwesty."
Methodd Mr Crutchley â chael hyd i staff diogelwch ond pan ddychwelodd, clywodd bod staff wedi gorfodi Mr Evans i adael.
Tua hanner nos fe wnaeth tad Mr Evans a'i gydweithwyr ddechrau chwilio amdano er mwyn mynd adre mewn bws mini. Methwyd â dod o hyd iddo. Y gred oedd iddo gymryd tacsi adre.
Y diwrnod canlynol fe aeth Graham Evans i'r heddlu a dweud bod ei fab ar goll.
Ni chafwyd hyd i'w gorff tan Ragfyr 30.
Dywedodd y patholegydd Dr Alison Armour fod Mr Evans wedi boddi, a bod dim tystiolaeth o anaf.
Dangosodd profion fod 213 miligram o alcohol am bob 100 mililitr o waed. Y terfyn ar gyfer yfed a gyrru yw 80 miligram.
Dywedodd Dr Armour: "Nid alcohol oedd yn uniongyrchol gyfrifol am ei farwolaeth, ond fe allai wedi cael effaith ar ei ymddygiad, neu olygu ei fod wedi syrthio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2011

- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2011

- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011