Norofirws: Wyth ward wedi cau mewn pum ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae 31 o gleifion wedi eu heintio gan y firws
Mae'r salwch stumog norofirws bellach yn effeithio ar bump o ysbytai gogledd Cymru.
Mae 31 o gleifion wedi eu heintio ar dair ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam; dwy ward yn Ysbyty Gwynedd, ac un ward yr un yn ysbytai Glan Clwyd, Bae Colwyn a Dolgellau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn i ymwelwyr i gadw draw os ydyn nhw wedi dangos symptomau o'r cyflwr dros y deuddydd diwethaf.
Mae Norofirws, sy'n lledu oherwydd cysylltiad â pherson neu wrthrych wedi ei heintio, yn effeithio ar hyd at filiwn o bobl y flwyddyn ym Mhrydain.
Golchi'r dwylo yw'r ffordd orau i atal lledu'r firws sydd, fel arfer, yn dod i ben o fewn 48 awr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd24 Hydref 2012

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol