Howley: 'Peidiwch rhoi pwysau ar Biggar'
- Cyhoeddwyd

Dechreuodd gyrfa ryngwladol Biggar yn 2008 yn erbyn Canada
Mae hyfforddwr dro dro tîm rygbi Cymru wedi ymbil ar y wasg a'r cyfryngau i beidio rhoi gormod o bwysau ar y maswr Dan Biggar.
Biggar gafodd ei ddewis gan Rob Howley i ddechrau'r gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn o flaen James Hook.
Dywedodd Howley: "Mae'n bwysig ei fod yn cael cyfle ac, os gwelwch yn dda, allwch chi gadw'r pwysau oddi arno fe."
Roedd Howley'n cydnabod bod angen i Biggar ateb rhai cwestiynau.
'Agos iawn'
Mae Biggar, 23 oed, yn cymryd lle Rhys Priestland sydd ag anaf i'w dennyn Achilles i ennill ei 12fed cap o Gymru mewn gyrfa a ddechreuodd yn 2008 yn erbyn Canada.
Ers hynny nid yw'r chwaraewr 6'2", 14st 8 pwys, wedi chwarae rhan mewn unrhyw gêm yn y Chwe Gwlad wrth i yrfa Stephen Jones barhau, ac yna Priestland yn ennill ei le.
Cyn i'r anaf ddod â'i obeithion yn y bencampwriaeth i ben, roedd cymaint o feirniadaeth o Priestland fel iddo fynd i ofyn am gymorth proffesiynnol.
Dywedodd Howley bod y penderfyniad rhwng Biggar a Hook yn un "agos iawn".
Ychwanegodd bod gemau da i'r Gweilch yn erbyn Toulouse a Chaerlŷr yng Nghwpan Heineken wedi bod yn allweddol.
"Rydym wedi gweld beth sy'n digwydd i bob rhif 10 yng Nghymru (dod o dan bwysau), ac mae'n bwysig iddo gael y cyfle i ddatblygu.
'Aeddfedu'
"Mae'n gêm fawr i Dan - mae'n deall hynny'n amlwg. Mae'n deall hefyd bod cystadleuaeth am y crys gan James.
"Ond mae Dan wedi aeddfedu dros y 12 mis diwethaf, ac rydym wedi bod yn onest gydag e yn nhermau rheoli ei gêm, ei fygythiad wrth redeg a'i gicio.
"Wrth siarad gyda phobl fel Neil Jenkins, fe gafodd Hooky, Steve Jones a Rhys Priestland amser i wella.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig i Dan ganolbwyntio ar hwyluso gwaith y tîm a chael y gorau gan y chwaraewyr o'i gwmpas, ac rwy'n sicr y bydd Dan yn gwneud hynny."
Y cefnwr Leigh Halfpenny fydd yn gyfrifol am gicio at y pyst, ac mae Howley'n credu y bydd hynny'n caniatáu i Biggar ganolbwyntio ar ei rôl dactegol.
CYMRU v.IWERDDON: Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd; Dydd Sadwrn, Chwefror 2 am 1:30pm:
CYMRU: Leigh Halfpenny (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), George North (Scarlets); Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Bayonne); Gethin Jenkins (Toulon), Matthew Rees (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Andrew Coombs (Dreigiau), Ian Evans (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Sam Warburton (Gleision, capten), Toby Faletau (Dreigiau).
EILYDDION: Ken Owens (Scarlets), Paul James (Caerfaddon), Craig Mitchell (Caerwysg), Olly Kohn (Harlequins), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).
IWERDDON: R Kearney; C Gilroy, B O'Driscoll, G D'Arcy, S Zebo; J Sexton, C Murray; C Healy, R Best, M Ross; M McCarthy, D Ryan; P O'Mahony, S O'Brien, J Heaslip (capten).
EILYDDION: S Cronin, D Kilcoyne, D Fitzpatrick, C Henry, D O'Callaghan, E Reddan, R O'Gara, K Earls.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013
