Dyn ar goll: Gwraig yn apelio'n daer
- Cyhoeddwyd

Ben Thompson yn croesi Heol Lecwydd, Caerdydd, am 7:17pm nos Sadwrn
Mae gwraig cefnogwr rygbi ddiflannodd wedi gêm rygbi ryngwladol Cymru wedi apelio'n daer am wybodaeth am yr hyn sy' wedi digwydd.
Cafodd Ben Thompson, 34 oed o Hwlffordd, ei weld ddiwethaf am 6.30pm nos Sadwrn yn Lôn y Felin yng nghanol Caerdydd lle oedd wedi bod yn gwylio'r gêm.
Cerddodd i gyfeiriad Treganna ac mae'r lluniau cylch cyfyng yn ei ddangos yn croesi Heol Lecwydd ger Stadiwm Dinas Caerdydd am 7:17pm.
Mewn cynhadledd newyddion yn y brifddinas fe apeliodd ei wraig Jo am help y cyhoedd.
"Plis helpwch fi i ddod o hyd i'r gŵr.
"Hoffwn i ddiolch i'w gydweithwyr a'i ffrindiau oherwydd eu hymdrechion hyd yn hyn ... mae hyn yn dangos bod pawb yn dwlu arno fe.
"Mae'n ddyn caredig a chariadus ac yn ffrind heb ei ail.
"Plis helpwch fi i ddod o hyd iddo fe."
Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n holi yn yr ardal o ddrws i ddrws.
Mae Mr Thompson yn 5'9" o daldra gyda gwallt byr brown a llygaid glas.
'Poeni'
Y tro diwethaf iddo gael ei weld roedd yn gwisgo esgidiau brown, jîns ac, o bosib, siwmper gyda streipiau glas a gwyn a siaced werdd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Eddie Ough, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae teulu a ffrindiau Ben yn poeni fwyfwy ac rydym yn cysylltu â nhw'n rheolaidd am yr ymchwiliad.
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd sydd wedi ymateb i'n hapêl am wybodaeth.
"Rydym nawr yn awyddus i glywed gan unrhyw un welodd Ben ar ôl 7:17pm nos Sadwrn."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am Mr Thompson gysylltu â'r ystafell reoli yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013
