Gavin Rees: 'Rwy'n mynd i'w lorio'
- Cyhoeddwyd

Dim ond un ornest mae Rees wedi ei cholli yn ei yrfa
Mae cyn-bencampwr WBA go-drwm y byd Gavin Rees yn dweud y bydd yn curo pencampwr WBC is-drwm y byd Adrian Broner nos Sadwrn.
Broner, 32 oed, yw'r ffefryn i ennill yr ornest yn Atlantic City yn America.
Dyw e heb golli yr un o'i 25 gornest hyd yn hyn.
Mae Rees, 32 oed, o'r Pant ger Trecelyn, wedi camu i'r sgwâr 39 o weithiau a'r unig dro iddo gael ei guro oedd pan gollodd bencampwriaeth go-drwm y byd ym mis Mawrth 2008 yn erbyn i Andreas Koletnik.
Penderfynodd Rees baffio yn yr adran is-drwm yn 2009 a chafodd ei goroni yn bencampwr is-drwm Ewrop wedi iddo guro'r Gwyddel Andrew Murray ar bwyntiau yng Nghaerdydd yn 2011.
Enillodd bencampwriaeth Prydain ym mis Gorffennaf y llynedd.
"Rwy' wedi bod yn America ers pum wythnos," meddai'r Cymro.
"Mae dilynwr paffio wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydda i'n curo Broner.
"Rwy'n mynd i'w lorio fe ... ac alla i ddim aros."