Casnewydd yn cael tri phwynt allweddol wrth guro Woking
- Cyhoeddwyd

Lee Minsull gafodd dwy o goliau Casnewydd
Casnewydd yn nesáu at frig Uwchgynghrair Blue Square wrth gael tri phwynt gyda'i buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Woking.
Dau bwynt sydd rhwng Yr Alltudion â Grimsby a Wrecsam sydd ar y brig.
Roedd y tîm cartref wedi ennill y pedair gêm flaenorol ond roedd Casnewydd yn benderfynol o sicrhau tri phwynt.
Mae'n debyg y byddan nhw'n siomedig o fod wedi ildio gôl yn hwyr yn y gêm ond fe fyddan nhw'n falch o'u perfformiad.
Lee Minsull gafodd ddwy o goliau Casnewydd, y ddwy yn dod o fewn chwarter awr.
Daeth y gyntaf wrth iddo benio croesiad Andy Sandell.
Daeth ei ail wrth iddo adweithio i ergyd Byron Anthony wnaeth daro'r postyn.
Anthony ei gafodd drydedd gôl Casnewydd o gornel y blwch cosbi.
Cafodd Gavin McCallum hanner foli yn yr amser sy'n cael ei ganiatáu am anafiadau i gadw record y tîm cartref o sgorio ym mhob un gêm cartref yn y tymor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2013

- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2013
