Cyhuddo un o gefnogwyr Abertawe
- Cyhoeddwyd

Sebastien Bassong (ar y dde) sgoriodd yr ail gôl
Mae un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cael ei gyhuddo gan yr heddlu ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymddwyn yn hiliol tuag at un o chwaraewyr Norwich.
Cafodd Lee Ward, 23 oed, ei arestio yn Stadiwm Liberty ar Ragfyr 8 ar ôl cwyn amddiffynnwr Norwich, Sebastien Bassong.
Bydd Mr Ward yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ar Fawrth 20.
Collodd Abertawe 4-3 ac roedd y drosedd honedig wedi i Robert Snodgrass sgorio'r bedwaredd gôl.
Cwynodd Bassong wrth y dyfarnwr Howard Webb gyfeiriodd y mater i swyddog cyn i'r cefnogwr gael ei arestio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2012
