Pwyllgor: Dylai'r AC Bethan Jenkins 'gael cerydd'
- Cyhoeddwyd

Roedd Ms Jenkins wedi ymddiheuro i Aelodau Cynulliad
Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad wedi casglu y dylai Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, gael ei cheryddu am yfed a gyrru.
Dywedodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y byddai'n annog y Cynulliad i gefnogi'r argymhelliad.
"Mae hyn yn anfon neges glir fod camymddwyn o'r fath yn annerbyniol," meddai'r pwyllgor.
Ar Hydref 31 cafodd yr AC ei stopio gan yr heddlu ac roedd yr alcohol yn ei gwaed fwy na dwywaith y lefel gyfreithiol.
Cafodd Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis.
Fydd Ms Jenkins ddim yn apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2013

- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012

- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012
