Diflaniad Owain: Dosbarthu taflenni
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Rhodri Llywelyn
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dosbarthu taflenni yn ardaloedd Mwnt a Heol Aberteifi yn y dre' union flwyddyn ar ôl i ddyn lleol 37 oed ddiflannu.
Does neb wedi gweld Owain Môn Roberts ers iddo adael ei gartre' ar Fawrth 10 y llynedd a mynd i gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion.
Dywedodd ei deulu: "Rydyn ni'n gobeithio o hyd. Os oes gan unrhywun wybodaeth, fe ddylai ffonio'r heddlu."
Y rhif cyswllt yw 101.
Dywedodd yr heddlu: "Mae swyddogion wedi dilyn pob trywydd ar sail yr wybodaeth gafodd ei derbyn ond mae Owain ar goll o hyd.
"Dylai unrhywun â gwybodaeth - does dim gwahaniaeth pa mor 'ddibwys' yw hi - gysylltu â ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2012

- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2012